Cofnodion / Minutes

Cross Party Autism Group / Grwp Trawsbleidiol Awtistiaeth

 Medi 11 September 2015

Prifysgol Glyndŵr University

 

1 WELCOME / CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, bawb i gyfarfod 2015 gogledd Cymru. 

Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan swyddog y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, Aled Roberts AC. Bu i Mark gyfleu ymddiheuriadau gan Aelodau'r Cynulliad nad oedd yn gallu bod yn bresennol a chroesawodd tîm cyfieithu'r Cynulliad. Rhoddodd Mark y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am waith parhaus yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y ddadl aelodau preifat ym mis Ionawr ar y Ddeddf awtistiaeth. Croesawodd Mark yr amrywiol sefydliadau a oedd yn cyflwyno i'r grŵp.

 

2 MINUTES OF THE LAST MEETING AND MATTERS ARISING/ COFNODION A MATERION YN CODI

Nid oedd materion yn deillio o'r cyfarfod diwethaf a chytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir o'r cyfarfod blaenorol.

 

3 AUTISM WISHES.

Rhoddodd Mandy Neal a Jo Perera o Autism Wishes grynodeb o waith yr elusen a chwaraeodd fideo sy'n tynnu sylw at eu llwyddiant hyd yma. Cafwyd cwestiwn gan y grŵp yn ymwneud ag ystodau oedran ar gyfer y cynllun chwarae y mae Autism Wishes yn ei ddarparu. Mae'r grŵp yn bennaf yn anelu at bobl iau, ond mae croeso i bawb.

 

4 ANGIE ATHERTON

Siaradodd Angie siaradodd am ei phrofiadau personol a chwaraeodd fideo yn manylu stori hi a'i mab. Nododd Angie sut, ar ôl nodi bylchau mewn gwasanaethau, y mae wedi sefydlu gwasanaeth cymorth ei hun i helpu pobl sydd ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Roedd hi hefyd am dynnu sylw at waith grŵp awtistiaeth Sir y Fflint. Dywedodd aelod o'r grŵp a oedd wedi derbyn cymorth gan Angie bod yr help a dderbyniodd wedi bod yn amhrisiadwy.

 

5 "YOURSPACE" CYMRU

Siaradodd Tamara Hall am y gwaith y mae "Your Space" yn ei wneud i gefnogi pobl sydd ag awtistiaeth yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys y clybiau cymdeithasol a'r gweithgarwch amrywiol.

 

6 CREATASMILE

Siaradodd Sharon Bateman am sut y sefydlwyd Creatasmile a'r gwaith y mae'n ei wneud ar draws y rhanbarth. Hefyd, soniodd Sharon am grant cyllid gan y Loteri Cod Post a sut bydd hyn yn caniatáu iddynt ehangu eu gwaith.

 

7 CANGEN WRECSAM O GYMDEITHAS GENEDLAETHOL AWTISTIAETH

Siaradodd Kerry Roberts a Kelly McLeod-Andrews am y gwaith y mae'r gangen wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys llwyddiant cynllun Stryd Fawr Iach o ran codi arian a'u digwyddiadau hustyngau etholiad. Codwyd cwestiwn am y cymorth o fewn prifysgolion y mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn ei ddarparu yng Ngogledd Cymru. Cytunodd Meleri Thomas o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru i drafod y ddarpariaeth ar gael ar ôl y cyflwyniad.

 

8 JO TAYLOR O GYNGOR SIR Y FFLINT

Trafododd Jo, ynghyd â'i chydweithiwr Trevor Brand, y dull a ddefnyddir gan yr awdurdod i gefnogi pobl ag awtistiaeth. Bu iddynt rannu astudiaethau achos diweddar ynghylch sut y mae unigolion wedi'u cefnogi. Hefyd, trafododd Jo sut y cyflawnwyd canlyniadau cadarnhaol drwy'r gwasanaeth cymorth monitro cymunedol ac, er bod cyllid ar gyfer hwn yn dod i ben, mae rhanbarth Gogledd Cymru yn gobeithio treialu gwasanaeth newydd i ddilyn ymlaen o'r gwaith hwn. Hefyd, dywedodd Jo wrth y grŵp am wefan ASD Info Cymru a'r adnoddau cyflogaeth sydd ar gael. Gofynnodd y grŵp  am eglurder o ran y cymorth sydd ar gael. Dywedodd Jo nad oes gwasanaeth generig ond bod cymorth wedi'i deilwra ar gael i helpu i sicrhau canlyniadau penodedig. Eglurodd Prif Weithredwr Cymdeithas Awtistiaeth Cilgwri y berthynas sydd ganddynt ag awdurdod lleol Sir y Fflint. Dywedodd aelod arall o'r grŵp bod ei mab wedi gwneud cynnydd mawr ar ôl iddo gael ei atgyfeirio.

 

9 GRŴP CYMORTH AWTISTIAETH A SYNDROM ASPERGER AR GYFER GWYNEDD AC YNYS MÔN

Siaradodd Alwyn Rowlands am yr ystod o waith y mae ei sefydliad yn ei wneud, gan gynnwys gweithio gyda myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddarparu clwb y Sbectrwm. Hefyd, nododd Alwyn arwyddocâd cyfarfod y grŵp trawsbleidiol yng ngogledd Cymru: un o'r ychydig rai sy'n teithio y tu allan i Gaerdydd a thalodd deyrnged i Aelodau'r Cynulliad sydd wedi ei gefnogi. Roedd Alwyn yn awgrymu fod momentwm strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru yn arafu, gan gyfeirio at yr ardal yn colli David Oliver. Gorffennodd Alwyn drwy ddweud nad oes digon o wasanaethau i ategu cynnydd mewn cyfraddau diagnosis, yn enwedig ar gyfer y rhai nad oes ganddynt gyflwr iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd neu anabledd dysgu. Pwysleisiodd bwysigrwydd y grwpiau cymorth a'r sefydliadau hynny a oedd wedi cyflwyno i'r grŵp trawsbleidiol y diwrnod hwnnw.

 

10. UNRHYW FATER ARALL

Gofynnodd Elin Walker Jones sut y gallai'r grŵp helpu i gefnogi galwad Mark Isherwood a Chymdeithas Awtistiaeth Cymru am Ddeddf awtistiaeth. Dywedodd Mark fod yr holl bleidiau yn drafftio eu maniffestos ar hyn o bryd ac y dylai'r grŵp achub ar y cyfle i wneud eu barn yn glir i'w Haelodau'r Cynulliad. Dywedodd bod y rhai sy'n cefnogi ei alwad am Ddeddf yn ei ddadl aelodau preifat wedi'i nodi yng Nghofnod y Trafodion [ http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/rop.aspx?meetingid=3102&assembly=4&c=Record%20of%20Proceedings&startDt=18/01/2015&endDt=24/01/2015&keyword=autism#195130 ].

 

Atgoffodd Meleri Thomas o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru y grŵp ynghylch cyngerdd am ddim i'w gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar gyfer rhieni a gofalwyr pobl ag awtistiaeth. Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiad gan y pianydd Noriko Ogawa ac yn dechrau am 10:30 ar 29 Medi.

 

Rhannodd aelod o grŵp fanylion sefydliad arall sy'n cynnig grwpiau therapi lleferydd ac iaith.

 

Dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth: 18 Tachwedd 2015 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 12:15 pm a 13:15 pm.